Pris

Hafan

Gwesty Glanmor BorthGwesty bach, teuluol, cyfeillgar sydd wedi’i leoli ar ben gogleddol stryd lan môr Borth yn edrych dros fae hardd Aberteifi yw Gwesty Glanmor. Mae’r gwesty wedi’i leoli yn ymyl traeth hir, glân, diogel, tywodlyd Borth. Y tu cefn i’r gwesty mae gwarchodfa natur Cors Fochno sydd â Mynyddoedd Cambria yn edrych i lawr arni.

Mae gan Westy Glanmor amrywiaeth o ystafelloedd i gyd â chyfleusterau modern, ynghyd â bar, lolfa a digon o leoedd storio a chyfleusterau sychu. Gydag arosfannau bysiau, gorsaf drenau a digon o le parcio mae dod i Westy Glanmor a’r rhan hardd hon o Gymru yn hawdd.

Mae Borth ei hun yn cynnig digon i’w wneud a’i weld, gyda’r traeth hir tywodlyd ac atyniadau amrywiol. Mae Gwesty Glanmor yn ganolfan wyliau berffaith i deuluoedd, golffwyr, gwylwyr adar, cerddwyr a’r rheiny sydd eisiau crwydro Bae Aberteifi a’r ardal o amgylch.